Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 21 Mawrth 2023
Amser:
09.01 -
09.24
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
|
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr aelodau i'r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 28 Mawrth 2023
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr EU a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio (30 munud)
· Dadl: Cyfnod Terfynol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) (15 munud)
Dydd Mawrth 25 Ebrill 2023
· Gorchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru) 2023 (15 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 29 Mawrth 2023 –
· Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Pleidleisio drwy Ddirprwy (15 munud)
· Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau Amrywiol (5 munud)
Dydd Mercher 3 Mai 2023 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cysylltu’r dotiau: mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Datgarboneiddio’r sector tai preifat (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl Fer: Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) (30 munud)
3.4 Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 29 Mawrth:
Tom Giffard
NNDM8232
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig i greu Bil twristiaeth Cymru.
2. Yn nodi mai pwrpas y Bil hwn fyddai:
a) dirymu Gorchymyn Bwrdd Croeso Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Bwrdd) 2005;
b) creu bwrdd twristiaeth newydd i Gymru;
c) trosglwyddo swyddogaethau Croeso Cymru a grymoedd Llywodraeth Cymru cysylltiedig i'r bwrdd newydd, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
i) annog pobl i ymweld â Chymru a phobl sy'n byw yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig i fynd ar eu gwyliau yno;
ii) annog darparu a gwella mwynderau a chyfleusterau twristiaeth yng Nghymru;
iii) hyrwyddo cyhoeddusrwydd;
iv) darparu gwasanaethau cynghori a gwybodaeth; a
v) sefydlu pwyllgorau i'w cynghori ynghylch perfformiad ei swyddogaethau.
4 Deddfwriaeth
4.1 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ynghylch amserlen Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ar Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). Wrth wneud hynny, nododd y Pwyllgor Busnes y pwyntiau a godwyd yn y llythyr ynghylch y potensial i gyflwyno Biliau eraill mewn meysydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn ystod yr un cyfnod.
Cydnabu’r Trefnydd yr angen i roi eglurder ar y materion hyn a hysbysodd y Rheolwyr Busnes fod y Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno Bil Cydsynio Seilwaith cyn diwedd tymor yr haf, ac y bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn rhoi’r diweddaraf am ddiogelwch tomenni glo ar ffurf datganiad ysgrifenedig yn ddiweddarach yr wythnos hon.
4.2 Papur i’w nodi - Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio).
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.
4.3 Papur i’w nodi - Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (Memorandwm Rhif 4) ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) i 27 Mawrth 2023, a hynny yn sgil symud y ddadl i 28 Mawrth.
4.4 Papur i’w nodi - Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.
5 Amserlen y Senedd
5.1 Dyddiadau’r toriadau
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor yr hydref a thoriad y Nadolig 2023, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer toriad hanner tymor y gwanwyn a thoriad y Pasg 2024.
Wrth wneud hynny, trafododd y Pwyllgor Busnes argymhelliad 14 yn adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), a gynigiodd y dylai’r Pwyllgor Busnes “ystyried ar fyrder a ddylid ymestyn tymor yr hydref i 22 Rhagfyr 2023, er mwyn darparu ar gyfer cyfarfodydd ychwanegol o’r Pwyllgor hwn ac eisteddiadau Cyfarfod Llawn ychwanegol a allai fod yn ofynnol ar gyfer ystyried rheoliadau sy’n deillio o’r Bil”.
Daeth y Pwyllgor Busnes i’r casgliad na fyddai’n gwneud newidiadau i’r trefniadau ar gyfer toriad Nadolig 2023 ar hyn o bryd, o ystyried nad yw ffurf derfynol y Bil na sut y byddai Llywodraeth Cymru yn ymateb i’w ddarpariaethau yn hysbys eto, ond y byddai’n ystyried ailedrych ar y mater hwn yn nes ymlaen yn y flwyddyn yn ôl yr angen.
5.2 Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Pasg 2023
Trafododd y Pwyllgor Busnes y papur a:
6 Y Rheolau Sefydlog
6.1 Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Pleidleisio drwy ddirprwy
Trafododd a chytunodd y Pwyllgor Busnes ar ei adroddiad, a diwygiadau cysylltiedig i’r canllawiau, o’i ystyriaethau a’i gynigion ar ddarpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 29 Mawrth.
6.2 Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ei adroddiad ar nifer o newidiadau amrywiol i’r Rheolau Sefydlog, ac i gyflwyno cynnig ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 29 Mawrth.